Addysg Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Polisi, Addewidion a Realiti Ymarfer

Stewart, Sarah; MacDonald, Natalie and Waters-Davies, Jane (2024). Addysg Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Polisi, Addewidion a Realiti Ymarfer. Addewidion a Realiti Ymarfer, 26(2) pp. 128–144.

DOI: https://doi.org/10.16922/wje.26.2.9cym

Abstract

Mae’r erthygl hon yn archwilio dwy agwedd allweddol ar y dirwedd polisi-ymarfer addysg ar gyfer darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar (ABC) yng Nghymru yn 2024. Yn gyntaf, mae’n ymdrin â’r sylw symbolaidd a roddir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) mewn polisi addysg a gofal mewn cyferbyniad â’r anghysonderau mewn ymarfer ABC. Yn ail, mae’n archwilio’r gwahaniaethau cynyddol ym mhrofiadau addysgol plant tair i bedair oed. Mae’r erthygl yn amlinellu’r fframwaith polisi cadarn sy’n adlewyrchu ymrwymiad Cymru i’r CCUHP, gan olrhain datblygiadau o Fframwaith Cwricwlwm ôl-ddatganoli arloesol y Cyfnod Sylfaen i blant rhwng tair a saith oed hyd at y ddarpariaeth addysgol amrywiol sydd ar gael i blant tair i bedair oed yn 2024. Mae’n rhoi archwiliad beirniadol o fwriad, pwrpas a chydlyniad y cynnig addysgol cyfunol i blant ifanc yng Nghymru, gan ystyried y goblygiadau posibl i blant, yn enwedig y rhai sy’n wynebu heriau strwythurol a phersonol ychwanegol. Mewn cyd-destun lle mae risgiau datgymhwyso’r cynnig cwricwlwm i blant ifanc yn dod i’r amlwg o hyd, er bod y Cwricwlwm i Gymru wedi’i fwriadu ar gyfer plant rhwng tair ac un ar bymtheg oed, mae’r erthygl yn cwestiynu i ba raddau y mae’r ymrwymiad polisi rhethregol i sicrhau bod pob plentyn yn gallu arfer ei hawliau ac yn cael dechrau addawol mewn bywyd yn sgil cynnig blynyddoedd cynnar cyson yn wirioneddol ystyrlon. Cefnogir y dadansoddiad gan ganfyddiadau dwy astudiaeth ddoethur sy’n canolbwyntio ar y materion hyn yng Nghymru (Stewart, 2024; MacDonald, ar y gweill).

Viewing alternatives

Download history

Metrics

Public Attention

Altmetrics from Altmetric

Number of Citations

Citations from Dimensions

Item Actions

Export

About